Howard Marks ar Rhys Ifans a’r ffilm am ei fywyd

Roedd smyglwr cyffuriau enwoca’ Cymru yn trafod y ffilm am ei fywyd penwythnos diwetha’.

Aeth Howard Marks i Wyl Talacharn yn ne Sir Gaerfyrddin i sôn am y profiad o gael actio efo Rhys Ifanc yn y biopic Mr Nice.

“Dw i wedi mwynhau’r holl ffilmio yn fawr iawn,” meddai Howard Marks mewn cyfweliad gyda Golwg.

“Mae’n beth prin iawn, dw i’n siwr i ffrind chwarae rhan ffrind agos iddo. Ydy hynny wedi digwydd o’r blaen dwed? Dw i ddim yn siwr.”

Mae Howard Marks a Rhys Ifans yn ffrindiau agos ers tua 13 blynedd ac fe drafodwyd y posibilrwydd o ffilm y tro cyntaf i’r ddau gyfarfod.

I ddarllen mwy o’r cyfweliad arbennig, ewch i’r rhifyn yma o gylchgrawn Golwg, tudalen 22.